Eich rhan yn y broses
Dyma rhai canllawiau i chi eu dilyn i helpu i gyfarwyddo’r broses cynhyrchu. Gall hyn arbed amser ac arian i chi.
Gallaf eich helpu i gyflawni cynnyrch terfynol o safon arbennig a fydd ar amser ac o fewn eich cyllideb. Bydd defnyddio’r wefan a chyfryngau cymdeithasol newydd yn ehangu a datblygu cynnyrch safonol a fforddiadwy.
Dyma’r rhai o’r cwestiynau y byddaf yn trafod gyda chi:-
Beth ydych yn ceisio ei gyflawni?
Cynhyrchu mwy o werthiant?
Datblygu cynnyrch gwell?
Cydnabyddiaeth y gwasanaeth?
Symud at farchnadoedd newydd?
Pwy yw’r cystadleuwyr? Ym mha fodd y mae rhain yn llwyddo?
Dangoswch enghreifftiau o hysbysebion y cystadleuwyr, eu presenoldeb ar y we, deunydd darllen a hyrwyddo. Gallwn drafod hyn a chynllunio deunydd rhagorol?
Pa ffordd y mae eich gwasanaeth/cynnyrch yn gwahaniaethu?
Pa fath o gyllid sydd gennych i gyflawni’r gwaith? A ydych am orffen y gwaith yn syth neu dros gyfnod o amser penodedig?
Ar ôl gorffen y gwaith, sut ydych am asesu’r llwyddiant i sicrhau gwerth eich buddsoddiad?
Os allwch ddod ag atebion i rhai o’r cwestiynau yma i’n trafodaeth agoriadol, gallwn symud ymlaen i drafod deunydd fydd yn gallu “troi’r freuddwyd yn realiti”..
- howard@howardadair.co.uk
- 01974 821365
- 07494 527030
- howard-adair
- howard.adair